50 MLYNEDD O FRWYDRO Gan Rhisiart Hincks Cynhelir llawer o gyrsiau Llydaweg bellach, ond erys Kamp Etrekeltiek ar Vrezhonegerien (KEAV) yn un o’r rhai mwyaf llwyddiannus. Bob haf trefnir cwrs pythefnos, ond pythefnos y gellir ei rannu’n ddwy wythnos unigol os dymunir. Ar gyfer pob wythnos bydd rhwng 80 a 90 o ddysgwyr mewn oed yn mynychu KEAV, a rhwng 20 a 30 o blant. Mae’r plant yng ngofal rhyw 20 o athrawon ac o gynorthwywyr. Siaredir Llydaweg gan bawb ar hyd y cwrs, a Llydaweg yw’r unig iaith a ddefnyddir - rhywbeth sydd wrth fodd y siaradwyr rhugl ac sydd ar yr un pryd yn rhoi cyfle gwych i’r lleill i gael eu trwytho ynddi - profiad anodd ei gael yn y Llydaw sydd ohoni
Ar 19 Gorffennaf 1997, i ddathlu pen blwydd KEAV yn 50 oed, trefnwyd gŵyl arbennig yn Skaer (Scäer). Yn 1948 y cynhaliwyd y gwersyll cyntaf, ac nid ar chwarae bach ’roedd trefnu rhywbeth o’r fath ar y pryd. Y pryd hynny, ’roedd teithio’n gostus, ac ’roedd yn rhaid gwneud y gorau o’r hyn a oedd ar gael - ar wellt, felly, y bu’n rhaid i’r gwersyllwyr cyntaf gysgu! ’Roedd hefyd yn gyfnod neilltuol drafferthus i bobl y mudiad o blaid Llydaw a’r Llydaweg, oherwydd yn dilyn y Rhyfel mynnid cysylltu pawb a weithiai dros y pethau Llydewig â charfan fechan o Ffasgwyr a fuasai’n ‘cydweithio’ â’r Almaenwyr. Pobl go ddewr yn unig a oedd yn fodlon datgan eu bod yn gweithio er mwyn Llydaw, a rhai felly oedd y tri ifanc a sefydlodd KEAV, sef yr awduron Ronan Huon a Vefa de Bellaing a’r arlunydd a’r awdur Xavier Langleiz.
Yng Nghleder, yn Nwyrain Leon, y cynhaliwyd y gwersyll cyntaf. Dull pedagogiadd newydd y pryd hynny, sef dysgu drwy fyw drwy gyfrwng yr iaith oedd dull KEAV. Llwyddodd y gwersylloedd cynnar i ddenu nifer o bobl o’r gwledydd Celtaidd eraill, ac yn y gwersyll cyntaf hwnnw yng Nghleder, er enghraifft, ’roedd 18 o Geltiaid tramor, Cymry yn bennaf, ymhlith y 57 o wersyllwyr. Astudio am hanner yr amser, a chael hwyl am yr hanner yr arall, fyddai’r gwersyllwyr yn y cyfnod cynnar. Yn ystod y bore byddai gwersi o wahanol fathau, ac yn prynhawn deithiau cerdded, cyfle i gael lliw haul ar y traeth neu gyfle i fynd i ymdrochi yn y môr. Ar ôl swper, weithiau traddodid sgyrsiau, ac yn aml câi noson o adloniant ei threfnu. Gan fod yno Gymry bob blwyddyn, a Gwyddelod hefyd ambell flwyddyn, caent hwy eu gwahodd i roi gwersi Cymraeg (neu Wyddeleg). O ran y sgyrsiau a draddodwyd, gellir dweud i’r rhan fwyaf o’r ymchwilwyr, yr ysgolheigion a’r artistiaid a fedrai Lydaweg fynd, rywdro, i siarad am ryw agwedd ar eu gwaith. Ambell dro ceid darlith gan rywun go adnabyddus. Ymhlith y siaradwyr ’roedd Yann Piette, Xavier Langleiz, Visant Seite, Yeun ar Gow, Roperzh ar Mason. Abeozen, yr Athro Falc’hun, Pêr Mokaer, Jarl Priel, Remon ar Porzh (Delaporte), Pêr Roue (Roy), Dr Tricoire, Maodez Glanndour, Paol Kalvez, Frañsez Kervella, Guy Etienne, R ar Glev, Per Denez, Gwennole ar Menn, Leon Fleuriot, Erwan Evenou, Yann-Fañch Kemener, Yann Gerven, Fañch Broudig, Yann-Bêr Piriou, Youenn Gwernig, Gwendal Denez, Lukian Kergoat, Frañsez Favereau, Daniel Carre... Am gyfnod maith, un o nodweddion poblogaidd y gwersyll oedd ei fod yn newid safle bob blwyddyn. Ar y dechrau, dilynai gŵyl Cymdeithas Gatholig, sef y Bleuñv-Brug, ac wedyn am gyfnod câi ei gynnal bob yn ail flwyddyn yn Nwyrain Llydaw ac yng Ngorllewin Llydaw. Dyma restr o’r mannau y cynhaliwyd y gwersyll a chrynodeb o rai o’r prif ddatblygiadau. (Rhoddwyd y ffurf Ffrangeg ar yr enwau lleoedd rhwng cromfachau, er gwybodaeth, ac yn dilyn, nodir, yn Llydaweg, enw’r rhanbarth.) - 1949: Plonevez-Porzhe (Plonevez-Porzhay) - Bro-Gerne
Yn Hydref 1952 cyhoeddwyd rhifyn cyntaf papur bach, un tudalen, a fwriedid fel dolen gydiol i’r gwersyllwyr rhwng y naill wersyll a’r llall. Dôi allan bedair gwaith y flwyddyn, a theitl y tri rhifyn cyntaf oedd Da c’hortoz an hañv. Wedyn fe’i trowyd yn Skol-hañv. Parhaodd tan 1968. Hyd yn oed y flwyddyn honno daliai’r bechgyn i gysgu ar wellt. Ac yntau wedi ei lethu gan waith fel arlunydd ac fel athro, bu’n rhaid i Xavier Langleiz roi’r gorau i arwain KEAV. Cymerwyd ei le gan Ronan Huon, ac efô a arhosodd wrth y llyw tan 1973. Yr ysgrifenyddes a’r trysorydd oedd Vefa de Bellaing, ac felly y bu tan 1976. Cymharol ychydig a fu’n mynychu gwersylloedd 1955 a 1956. Yn 1954, ’roedd 74. Yn 1955, nifer y gwersyllwyr oedd 67. Yn 1956, ni fu ond 51 yn cymryd rhan. Ymddengys efallai fod a wnelo’r gostyngiad â rhaniadau o fewn mudiad yr iaith. Ymrannodd y Gyngres yn 1954, gyda Pêr Roue’n cadw’r Gyngres fel achlysur ar gyfer dawnsio a cherddoriaeth yn unig, a Roparz Hemon yn sefydlu’r Gyngres Geltaidd. Ar ben hynny, bu ymrannu yn sgil dyfeisio’r orgraff sy’n cael ei hadnabod fel ‘orgraff Prifysgol Brest’, dull o sillafu’r Llydaweg a oedd yn cystadlu â’r dull unffurf, sydd fel arfer yn cael ei alw’n orgraff zh. 1957: Plougouloum (Plougoulm) - Bro-Leon. 1958: Plozeved (Plozévet) - Bro-Gerne. 1959: Rostrenenn (Rostrenen) - Bro-Gerne1960: Plouenan (Plouénan) - Bro-Leon1961: Logivi-Plougraz (Loguivy-Plougras) - Bro-Dreger)1962: Sant-Nikolaz-ar-Pelem (Saint-Nicolas-du-Pélem) - Bro-Gerne’Roedd y gwersyll yn cryfhau unwaith eto. Yn 1958 ’roedd 74 o bobl, a dechreuodd parau ifainc ddod â’u plant gyda hwy. Bu cynnydd neilltuol yn nifer y gwersyllwyr 5-15 oed, a daeth y gwersyll yn fath o ganolfan wyliau i deuluoedd.’Roedd hefyd bobl ifainc yn dod, rhai nad oed eu rhieni’n ymhél â’r gwaith dros y Llydaweg. Gyda’i gilydd ffurfiodd yr ifainc Kevredigezh ar Vrezhonegerien Yaouank (Cymdeithas y Siaradwyr Llydaweg Ifainc).
1963: Langoned (Langonnet) - Bro-Gerne1964: Lokournan (Saint-Renan) - Bro-Leon1965: Rostrenenn (Rostrenen) - Bro-Gerne1966: Logivi-Plougraz (Loguivy-Plougras) - Bro-Gerne1967: Sant-Nikolaz-ar-Pelem (Saint-Nicolas-du-Pélem) - Bro-Gerne1968: Mur (Mûr-de-Bretagne) - Bro-GerneYmhlith selogion KEAV, ’roedd criw o ymgyrchwyr a ddymunai roi sylw i ddatblygu’r Llydaweg yn iaith addas ar gyfer ymdrin â’r gwyddorau. Gan y rhain sefydlwyd cymdeithas o’r enw S.A.D.E.D. (Skourr an Deskadurezh Eil Derez, h.y. Y Gangen Addysg Eilradd), a chawsant ofal dosbarthiadau uchaf y gwersylloedd. Yn y pen draw, fodd bynnag, cafwyd ei bod yn rhy anodd trefnu cyrsiau lle ’roedd amcanion mor wahanol gan ddwy garfan, a heb ddal dig ymadawodd y grŵp hwnnw yn dilyn gwersyll 1968.
1969: Lesneven - Bro-Leon1970: Kintin (Quintin) - Bro-Sant-Brieg1971: Kerien (Querrien) - Bro Sant-Maloù1972: Kemper (Quimper) - Bro-Gerne1973: Kintin (Quintin) Bro-Sant-Brieg’Roedd nifer go dda o bobl ifainc am feistroli iaith eu rhieni yn ystod y blynyddoedd 1969-’73, ac âi llawer ohonynt i KEAV. ’Roedd fel pe bai dwy garfan o bobl, a chanddynt ffyrdd eithaf gwahanol o fyw, sef y rhai a berthynai i’r cyfnod cyn 1968 a’r rhai a berthynai i’r cyfnod ar ôl 1968. Llwyddwyd i gael cydbwysedd rhwng y gwahanol garfannau, er hynny, a diau fod arweiniad gwengar Ronan Huon yn rhannol gyfrifol am y llwyddiant hwnnw. Gorffennodd ef ei gyfnod fel arweinydd KEAV yn 1973. Efallai am iddo gael y baich gweinyddol yn rhy drwm, yn enwedig gan ei fod hefyd yn golygu’r cylchgrawn Al Liamm ac yn rhedeg cwmni cyhoeddi Al Liamm.
Y flwyddyn honno, cyd-drefnwyd y gwersyll gan KEAV a Skol an Emsav. Dyna’r ysgol haf fwyaf a fu, ac ynddi 200 o bobl, ond er cymaint y llwyddiant cododd anawsterau, a chan fod Skol an Emsav’n dymuno gwneud gwaith mwy gwleidyddol, penderfynwyd peidio â threfnu gwersylloedd eraill ar y cyd. Paol Kalvez ac Yann Talbod a oedd wrth y llyw, ond bu lleihad yn nifer y dysgwyr ar y cwrs. Yn dilyn y gwersyll hwn, llwyddwyd i berswadio nifer o bobl iau i ymgymryd â rhai o’r dyletswyddau. Gwennael Huon, un o feibion Ronan Huon, a ddaeth yn drefnydd, a chytunodd Anna ar Beg i fod yn ysgrifenyddes ac yn drysorydd. 1977- ’89: Skaer (Scaër) - Bro-Gerne ’Roedd cyfnod newydd wedi dechrau o dan arweiniad y trefnwyr newydd. Gan ei bod wedi mynd yn wir anodd cael hyd i ysgol lle ’roedd llety a hefyd ffreutur daeth y gwersyll i ymsefydlu yn Ysgol Sant Alan, Skaer. Gan ei bod yn mynd yn fwyfwy anodd cael hyd i ddigon o athrawon, cwtogwyd y cwrs o bythefnos i ddeng niwrnod, a chan fod cynifer o ddysgwyr nad oeddent wedi mynd yn bell iawn gyda’r iaith, dechreuwyd cynnal gwersi yn ystod y prynhawn hefyd.40-50 o bobl y flwyddyn a fu bob blwyddyn yng ngwersylloedd 1977-80, a rhyw 60 a fynychai rai’r ’80au - gyda chynifer â 90 unwaith, a hyd yn oed 110 yn 1988 ac yn 1989. Oherwydd prinder lle yn yr ysgol, bu’n rhaid i rai o’r gwersyllwyr gael llety yn y dref neu ar faes pebyll.Heb ymadael â Skaer, datryswyd llawer o’r problemau drwy symud KEAV o Ysgol Sant Alan i Ysgol Joliot-Curie, lle ’roedd yr adeiladau’n fwy modern, lle ’roedd mwy o le, a lle y ceid hefyd ffreutur cymunedol.Gan fod mwyfwy o bobl am fynychu’r ysgol haf, a chan fod rhai ohonynt am aros am bythefnos tra oedd amryw o’r athrawon yn fodlon dod am wythnos yn unig, penderfynwyd y byddai’r cwrs yn ymrannu’n ddwy wythnos annibynnol ar ei gilydd, fel y gellid cofrestru am wythnos neu am bythefnos.
1990-’97: Skaer Yn dilyn gwersyll 1995, bu cynnydd yn nifer y rhai a fynychai KEAV, gyda chynifer â 147 yn gofyn ar yr un pryd am le yn ystod yr wythnos gyntaf. Datryswyd y broblem hon drwy estyn y cwrs dros drydedd wythnos.Athrawon a gwylwyr gwirfoddol sy’n gofalu am y dysgwyr, yn blant ac yn oedolion, a chroesewir dysgwyr o bob safon cyhyd ag y byddant wedi dilyn dosbarthiadau am o leiaf ddwy flynedd. Y gwersi yw’r prif weithgarwch beunyddiol, ond mae hwyl i’w chael hefyd yn y sesiynau arbennig ac yn y nosweithiau adloniadol sy’n cael eu trefnu. Cynhelir sesiynau canu a dawnsio, er enghraifft, a pherfformir dramâu byrion. Afraid dweud mai Llydaweg yw unig iaith y gweithgareddau hyn, ac mai hi yw’r iaith sy’n cael ei siarad wrth y ford fwyd bob amser.Bob blwyddyn deil KEAV i ddenu Cymry. Weithiau nid oes ond unigolion, ond ambell dro bydd cynifer â deg o wersyllwyr o Gymru. Ar y cwrs bu hefyd bobl o’r Almaen, o Hwngaria o’r Unol Daleithiau ac o Japan.
Ar 19 Gorffennaf, 1997, cynhaliwyd gŵyl yn Skaer i ddathlu pen blwydd KEAV yn hanner cant oed. Yn ystod y bore, cafwyd darlithiau am hanes y gwersyll, am ei bresennol ac am ei ddyfodol. Yn y prynhawn, bu sesiwn canu a cherddoriaeth, ac ar ôl swper perfformiwyd dramâu a chynhaliwyd fest-noz. ’Roedd y diwrnod hwnnw’n gyfle inni i anrhydeddu’r rhai a sefydlodd KEAV, ac i dalu teyrnged i bawb a fu’n cynorthwyo i roi bywyd iddo. Ar ddiwrnod llawn bwrlwm a hwyl, cawsom gwrdd â llawer o’r cymwynaswyr hynny, a dathlu’r modd y bu inni gydweithio ar hyd y blynyddoedd. ’Roedd yr ŵyl hefyd yn gyfle inni i gryfhau’n cysylltiadau â’r gwledydd Celtaidd eraill, ac â Chymru yn anad dim, ac yn fodd inni i dynnu sylw pawb at gyfraniad nodedig Kamp Etrekeltiek ar Vrezhonegerien i fywyd Llydaw. Hydref 1997 |